Katja Riemann | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Katja Hannchen Leni Riemann ![]() 1 Tachwedd 1963 ![]() Weyhe ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, canwr, actor ffilm, llenor, actor llais, actor ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd ![]() |
Priod | Raphael Beil ![]() |
Partner | Peter Sattmann ![]() |
Plant | Paula Riemann ![]() |
Gwobr/au | Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Ffilm Almaeneg / Actores Cefnogol Gorau, Cwpan Volpi am yr Actores Orau, Gwobr Ffilm Almaeneg / Arweinydd Benyw Gorau, Courage Award, Berliner Bär, Askania Award ![]() |
Gwefan | https://www.katja-riemann.de ![]() |
Awdures Almaenig yw Katja Riemann (ganwyd 1 Tachwedd 1963) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel peroriaethwr, canwr ac actor ffilm.
Ganed Katja Hannchen Leni Riemann yn Weyhe (Weyhe-Kirchweyhe) yng ngorllewin yr Almaen, yn ferch i ddau athro. Wedi gadael Ysgol Gyfun Gydweithredol (KGS) Leeste yn 1983 mynychodd Brifysgol Cerdd, Drama a'r Cyfryngau, Hanover, gan astudio cerddoriaeth a theatr, ac yna mynychodd, Goleg Cerddoriaeth a Theatr Hannover rhwng 1984 a 1986 ac o 1986 i 1987, Ysgol Otto Falckenberg ym Munich.[1] [2]
Rhwng 1990 a 1998 bu'n byw gyda Peter Sattmann, yr oedd hi wedi'i gyfarfod wrth ffilmio'r ffilm deledu Von Gewalt keine Rede. Gyda hi fe saethodd gyfanswm o naw ffilm deledu. Mae'r actores Paula Riemann yn blentyn iddi a Peter Sattmann.[3][4][5]