Math o rasio beic ar y trac ydi'r Keirin (競輪 / ケイリン, [keiɽiɴ]) "olwynion rasio". Fe'i ddyfeiswyd yn Siapan ym 1948 a daeth yn gamp swyddogol yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney, Awstralia[1][2].
Mae ras keirin yn digwydd dros 2 km gyda'r beicwyr yn cychwyn tu ôl i feic modur. Mae'n rhaid i'r beicwyr aros tu ôl i'r beic modur am gyfnod penodol tra bo'r cyflymder yn codi o 25 km/a (16 mya) i 50 km/a (31 mya). Mae'r beic modur yn gadael y trac tua 600–700 m cyn diwedd y ras.