Keith Chegwin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Ionawr 1957 ![]() Lerpwl ![]() |
Bu farw | 11 Rhagfyr 2017 ![]() o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig ![]() Swydd Amwythig ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyflwynydd teledu, actor teledu ![]() |
Priod | Maggie Philbin ![]() |
Gwefan | https://www.keithchegwin.com ![]() |
Actor a chyflwynydd teledu Seisnig oedd Keith Chegwin (17 Ionawr 1957 – 11 Rhagfyr 2017). Cychwynodd fel actor pan yn blentyn a daeth yn un o gyflwynwyr teledu plant mwyaf adnabyddus yr 1980au. Cyflwynodd y rhaglenni teledu Multi-Coloured Swap Shop, Cheggers Plays Pop a Saturday Superstore.[1]
Fe'i ganwyd yn Lerpwl. Brawd y cyflwynydd radio Janice Long oedd ef. Priododd yr actores a chyflwynydd teledu Maggie Philbin ym 1982; ysgarodd 1993. Priododd Maria Fielden yn 2000.
Bu farw yn Rhagfyr 2017 wedi gwaeledd hir yn dioddef o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig.