Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 64,530 |
Pennaeth llywodraeth | Bernard Poignant, Alain Gérard, Bernard Poignant, Marc Bécam, Jean Lemeunier, Léon Goraguer, Ludovic Jolivet, Isabelle Assih |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 84.45 km² |
Uwch y môr | 6 metr, −5 metr, 151 metr |
Yn ffinio gyda | Pluwenn, Brieg, An Erge-Vras, Gwengad, Landrevarzeg, Plogoneg, Ploveilh, Ploneiz, Pluguen, Sant-Evarzeg |
Cyfesurynnau | 47.9958°N 4.0978°W |
Cod post | 29000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Kemper |
Pennaeth y Llywodraeth | Bernard Poignant, Alain Gérard, Bernard Poignant, Marc Bécam, Jean Lemeunier, Léon Goraguer, Ludovic Jolivet, Isabelle Assih |
Cymuned a thref Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Kemper yw prifddinas département Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.
Mae kemper yn air Llydaweg sy'n cyfateb i'r gair "cymer" (afonydd) yn Gymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11g, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13g a'r 16g. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.