Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Metropolitan Borough of Kensington, Sir Llundain, Middlesex |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Notting Hill |
Cyfesurynnau | 51.5004°N 0.1909°W |
Cod OS | TQ255795 |
Cod post | SW7, SW5 |
Ardal yng ngorllewin Llundain yw Kensington, a leolir ym mwrdeistref Kensington a Chelsea.[1] Mae'r ardal wedi'i chanoli ar Stryd Fawr Kensington, stryd siopa sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin.[2] Yn y gogledd-ddwyrain lleolir Gerddi Kensington, sy'n cynnwys Cofeb Albert ac Oriel y Serpentine. Mae Kensington yn gartref i Goleg Imperial Llundain, y Coleg Cerdd Brenhinol, Neuadd Frenhinol Albert, Amgueddfa Hanes Natur Llundain, Amgueddfa Victoria ac Albert, a'r Amgueddfa Wyddoniaeth. Mae'r ardal hefyd yn gartref i lawer o lysgenadaethau ac is-genhadon.