Kim Campbell | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Avril Phædra Douglas Campbell ![]() 10 Mawrth 1947 ![]() Port Alberni ![]() |
Dinasyddiaeth | Canada ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, diplomydd, hunangofiannydd, gwyddonydd gwleidyddol ![]() |
Swydd | Prif Weinidog Canada, Aelod o Dŷ'r Cyffredin Canada ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | British Columbia Social Credit Party, Progressive Conservative Party of Canada ![]() |
Priod | Nathan Divinsky, Hershey Felder ![]() |
Gwobr/au | Cydymaith o Urdd Canada, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Canadian Newsmaker of the Year, Order of British Columbia, 125th Anniversary of the Confederation of Canada Medal, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia ![]() |
Gwefan | http://www.kimcampbell.com/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Gwleidydd, diplomydd, cyfreithiwr, ac awdur o Ganada yw Avril Phaedra Douglas " Kim " Campbell PC CC OBC KC (ganwyd 10 Mawrth 1947). Gweithredodd fel 19eg Prif Weinidog Canada rhwng 25 Mehefin a 4 Tachwedd 1993. Campbell yw prif weinidog benywaidd cyntaf Canada, ac o hyd yn hyn, yr unig un. Cyn dod yn brif weinidog terfynol y Ceidwadwyr Blaengar (PC), Campbell oedd y fenyw gyntaf i weithredu fel gweinidog cyfiawnder yn hanes Canada a'r fenyw gyntaf i ddod yn weinidog amddiffyn mewn aelod-wladwriaeth NATO . [1]
Etholwyd Campbell i Gynulliad Deddfwriaethol British Columbia gyntaf fel aelod o Blaid Credyd Cymdeithasol British Columbia yn 1986 cyn cael ei hethol i Dŷ’r Cyffredin Canada fel PC yn 1988. O dan y Prif Weinidog Brian Mulroney, bu hi mewn nifer o swyddi cabinet gan gynnwys gweinidog cyfiawnder a thwrnai cyffredinol, gweinidog materion cyn-filwyr a gweinidog amddiffyn cenedlaethol rhwng 1990 a 1993. Daeth Campbell yn brif weinidog newydd ym mis Mehefin 1993 ar ôl i Mulroney ymddiswyddo yn sgil y dirywiad mewn poblogrwydd. Yn etholiad ffederal Canada 1993 ym mis Hydref y flwyddyn honno, dirywiwyd y Ceidwadwyr Blaengar, gan golli pob un ond dwy sedd o fwyafrif blaenorol, gyda Campbell yn colli ei sedd ei hun. Ei phrifweinidogaeth o 132 diwrnod yw'r trydydd byrraf yn hanes Canada.
Roedd Campbell hefyd y person cyntaf i dal y swydd a ganwyd rhwng 1946 - 1964 ( baby boomer), yn ogystal â'r unig brif weinidog a anwyd yn British Columbia . [2] Campbell yw'r cadeirydd bwrdd cynghori Goruchaf Lys yng Nghanada.[3]