King Tubby | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Ionawr 1941 ![]() Kingston ![]() |
Bu farw | 6 Chwefror 1989 ![]() Kingston ![]() |
Label recordio | Trojan Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Jamaica ![]() |
Galwedigaeth | cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, peiriannydd sain, cerddor ![]() |
Arddull | reggae, dub music ![]() |
Roedd King Tubby (28 Ionawr 1941 – 6 Chwefror 1989) yn gynhyrchydd a pheiriannydd sain Reggae.[1] Cafodd ei eni yn Kingston (Jamaica) fel Osbourne Ruddock.
Cafodd King Tubby ddylanwad mawr ar ddatblygiad cerddoriaeth Jamaica yn y 1970au ac enillodd dilyniant mawr gyda ffans Reggae ar draws y byd.
Gyda Lee "Scratch" Perry, mae King Tubby yn cael y clod am fod un o'r cyntaf i ail-gymysgu traciau caneuon i fersiynau "Dub". Mae fersiwn "Dub" o drac cerddorol fel arfer heb lais y prif ganwr, mae lefelau sŵn rhythmau’r bâs a drymiau'n cael eu codi'n llawer uwch ac mae effeithiau atsain a "reverb" yn cael eu hychwenegu. Daeth ail-gymysgu traciau caneuon - y "remix" - yn rhan hanfodol o gynhyrchu cerddoriaeth electronig dawns ar draws y byd o'r 1980au ymlaen. [2]