Math | is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, tref ar y ffin, mega-ddinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Leopold II, brenin Gwlad Belg |
Poblogaeth | 14,565,700 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kinshasa |
Gwlad | Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Arwynebedd | 9,965 ±1 km² |
Uwch y môr | 240 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Congo |
Yn ffinio gyda | Rhanbarth Bas-Congo, Brazzaville, Talaith Mai-Ndombe, Kwilu, Talaith Kwango |
Cyfesurynnau | 4.3219°S 15.3119°E |
CD-KN | |
Sefydlwydwyd gan | Henry Morton Stanley |
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw Kinshasa (Léopoldville tan 1966). Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad ar lan ddeheuol Afon Congo. Saif Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo, ar y lan gyferbyn. Kinshasa yw dinas fwyaf holl gyfandir Affrica gyda phoblogaeth o tua 14,565,700 (1 Gorffennaf 2020)[1].
Fe'i sefydlwyd fel canolfan fasnachol yn 1881 gan y Cymro Henry Morton Stanley o Lanelwy a enwodd y ddinas ar ôl Léopold II, brenin Gwlad Belg. Daeth Léopoldville yn brifddinas trefedigaeth Congo Felgaidd yn ystod y 1920au. Yn 1966 newidiwyd ei henw i Kinshasa, pentref bychan a oedd yma cyn y brifdinas, gan yr Arlywydd Mobutu Sese Soko.
Ar un adeg roedd Kinshasa'n bentrefi pysgota a masnachu; mae Kinshasa bellach yn un o'r mega-ddinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n wynebu Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo; y ddwy ddinas yma (Kinshasa' a Brazzaville) yw'r ddwy brifddinas agosaf at ei gilydd yn y byd. Mae dinas Kinshasa hefyd yn un o 26 talaith y wlad. Oherwydd bod ffiniau gweinyddol y ddinas-dalaith yn gorchuddio ardal helaeth, mae dros 90 y cant o dir y ddinas-dalaith yn wledig ei natur, ac mae'r ardal drefol yn meddiannu rhan fach, ond sy'n ehangu ar yr ochr orllewinol.[2]
Kinshasa yw trydydd ardal fetropolitan fwyaf Affrica, ar ôl Cairo a Lagos.[3] Hi hefyd yw ardal drefol Ffrangeg ei hiaith fwyaf y byd, gyda'r Ffrangeg yn iaith llywodraeth, addysg, y cyfryngau, gwasanaethau cyhoeddus a masnach, tra bod Lingala yn cael ei defnyddio fel iaith pob dydd ar y stryd.[4] Cynhaliodd Kinshasa 14eg Uwchgynhadledd Francophonie ym mis Hydref 2012.[5]
Gelwir dinasyddion Kinshasa yn "Kinois" (yn Ffrangeg ac weithiau yn Saesneg) neu Kinshasans (Saesneg). Mae pobl frodorol yr ardal yn cynnwys yr Humbu [fr] a Teke.