Rali Ku Klux Klan, Gainesville, Florida, 31 Rhagfyr 1922. | |
Bodolaeth | |
---|---|
Clan 1af | 1865–1870au |
2il Glan | 1915–1944 |
3ydd Clan 1 | ers 1946 |
Aelodau | |
Clan 1af | 550,000 |
2il Glan | rhwng 3 a 6 miliwn[1] (at ei anterth rhwng 1920–1925) |
Priodweddau | |
Tarddiad | Unol Daleithiau America |
Ideoleg wleidyddol |
Goruchafiaeth y dyn gwyn Cenedlaetholdeb y dyn gwyn Cynhenidiaeth Terfysgaeth Gristnogol[2][3][4][5] Neo-Gonffedyddiaeth Neo-ffasgaeth |
Sefyllfa wleidyddol | De eithafol |
Crefydd | Protestaniaeth |
1Mae'r trydydd clan wedi ei ddatganoli, gyda tua 179 pennod. |
Ku Klux Klan, KKK ar lafar a The Klan yn anffurfiol, yw'r enw o dri sefydliad de eithafol[6][7][8][9] a oedd yn bodoli ac sy'n bodoli o hyd yn yr Unol Daleithiau. Maent yn adfocadu materion adweithiol eithafol megis goruchafiaeth y dyn gwyn, cenedlaetholdeb y dyn gwyn, a gwrth-fewnfudo, a weithredwyd yn hanesyddol drwy derfysgaeth.[10][11] Ers canol yr 20g, mae'r KKK hefyd wedi bod yn gwrth-gomiwnyddol.[10] Dosberthir y mudiad yn a'i sawl enwad yn grŵp casineb.[12]
Dechreuodd y clan cyntaf yn Ne America yn y 1860au, ond daeth i'w ben erbyn y 1870au cynnar. Dechreuodd aelodau wisgo gwisgoedd gwynion: gynau, masgiau, a hetiau conig, a grëwyd i edrych yn anghysbell a dychrynllyd, ac i guddio'i hwynebau.[13] Dechreuodd yr ail KKK yn fyd-eang yn y 1920au cynnar, a gwisgo'r un gwisgoedd a geiriau côd â'r clan cyntaf, a dechrau llosgi croesau ar yr un pryd.[14] Tynnai sylw at y Klan yn sgil lynsio Leo Frank yn 1915, a gwrthwynebodd y garfan newydd Iddewon, Catholigion, a mewnfudwyr yn ogystal â phobl groenddu. Enw llawlyfr y grŵp newydd oedd y Kloran, chwarae ar eiriau'r "Klan" a'r "Corân". Cyrhaeddodd y mudiad ei anterth yn y 1920au, pan oedd rhyw 15% o boblogaeth y wlad oedd yn medru ymuno â'r Klan yn aelodau, ac hynny am dâl o $10 yr un. Dynion amlwg ym myd busnes a gwleidyddiaeth oedd rhai o'r aelodau, ac roedd Clansmyn wedi eu hethol i swyddi pwysig yn llywodraethau Tennessee, Indiana, Oklahoma, ac Oregon. Yn nhaleithiau'r canolbarth cafodd nifer o sosialwyr a chomiwnyddion eu llofruddio gan y KKK. Bron i 4 miliwn o aelodau oedd gan y mudiad yn 1920, ond erbyn 1930 roedd y nifer wedi gostwng i ryw 30,000.
Dechreuodd y trydydd KKK ar ôl Ail Ryfel Byd a chymdeithaswyd nhw â gwrthwynebu mudiadau iawnderau sifil a chynydd ymysg grwpiau lleiafrifol. Cyfeiriodd y ail a thrydydd Ku Klux Klan yn aml at waed "Celtaidd" ac "Eingl-Sacsonaidd" America, sy'n atgoffa o gynhenidiaeth y 19g a chwyldroadwyr trefedigaethol Prydeinig y 18g.[15] Mae pob grŵp yn adnabyddus am derfysgaeth.