![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 650 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1.19 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 57.2817°N 5.7133°W ![]() |
Cod SYG | S20000209, S19000238 ![]() |
Cod OS | NG765275 ![]() |
Cod post | IV40 ![]() |
![]() | |
Pentref yng Nghyngor yr Ucheldir, yr Alban, yw Kyle of Lochalsh[1] (Gaeleg yr Alban: Caol Loch Aillse).[2]
Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 739 gyda 84.71% o’r rheiny wedi’u geni yn yr Alban a 10.96% wedi’u geni yn Lloegr.[3]
Agorwyd pont rhwng Kyle ac An t-Eilean Sgitheanach (Saesneg: Skye) ym 1995, yn disodli’r gwasanaeth fferi Calmac rhwng Kyle a Kyleakin ar yr ynys.
Agorwyd rheilffordd rhwng Inverness a Kyle gan Reilfford yr Ucheldir ym 1897, a dechreuodd gwasanaeth fferi arall, rhwng Kyle a Steòrnabhagh (Saesneg: Stornoway]]. Parhaodd y wasanaeth yno hyd at 1973, pan ddechreuodd gwasanaeth rhwng Ullapool a Steòrnabhagh.[4]