L. S. Lowry | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Tachwedd 1887 ![]() Stretford, Old Trafford ![]() |
Bu farw | 23 Chwefror 1976 ![]() Glossop ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr printiau, artist, arlunydd ![]() |
Adnabyddus am | Going to the Match ![]() |
Arddull | celf tirlun, peintio genre, portread ![]() |
Mudiad | celf naïf ![]() |
Arlunydd o Loegr oedd Laurence Stephen Lowry (1 Tachwedd 1887 – 23 Chwefror 1976). Fe'i ganwyd yn Stretford, ger Manceinion. Darluniodd Pendlebury droeon, sef maestref pedair milltir i'r gogledd o ganol Manceinion; yma y gweithiodd ac yma y treuliodd 40 mlynedd o'i fywyd. Roedd Manceinion yn fwrlwm o ddiwydiant yng nghanol yr 20g ac nid oedd gan Lowry ofn ei ddarlunio, a'r bobl roedd yn eu plith.
Datblygodd steil unigryw o beintio'r hyn a oedd o'i gwmpas: tirluniau yn llawn diwydiant a phobl a elwir gan eraill yn "bobl matsys" ("matchstick men"). Cyhoeddwyd y gweithiau "marionette" wedi ei farwolaeth.
Anwybyddai'r tywydd i raddau helaeth ac roedd ei bobl yn 'garactures' syml; ac oherwydd hyn galwyd ef gan rai yn naïf. [1] "Sunday painter", er nad yw hyn yn farn y rhan fwyaf o galeriau mwya'r byd.[2][3][4][5]
Arddangosir casgliad eitha swmpus o'i waith mewn galeri gyhoeddus o'i waith yn Salford Quays, galeri o'r enw "The Lowry".
Gwrthododd Lowry bum anrhydedd gan gynnwys ei wneud yn Farchog gan Frenhines Lloegr yn 1968; yn wir ef yw'r Prydeiniwr sydd wedi gwrthod y mwyaf o anrhydeddau.[6]
Ar 26 Mehefin 2013 agorwyd arddangosfa fawr o'i waith yn Tate Britain yn Llundain, y tro cyntaf idynt arddangos casgliad o'i waith.
|date=
(help)