![]() | |
Math | municipality of Tunisia, Imada ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 92,987 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnis, delegation of La Marsa ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 36.8764°N 10.3253°E ![]() |
Cod post | 2070 ![]() |
![]() | |
Mae La Marsa (Arabeg: المرسى al-Marsa) yn dref arfordirol yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia tua 20 km i'r gogledd-ddwyrain o'r brifddinas Tiwnis (36°52′60″Gog, 10°19′60″Dw). Mae ganddi boblogaeth o tua 65,742 (2006). Er iddi ddechrau ei dyddiau fel tref ar wahân fe'i hystyrir bellach yn rhan o Diwnis Fwyaf.
Mae La Marsa yn gorwedd ar ben gogleddol Rheilffordd y TGM, sy'n ei chysylltu â Thiwnis ei hun. Gyda'i chymdogion Sidi Bou Saïd ac ardal Carthago mae'n un o'r trefi mwya dethol a chyfoethog yn y wlad ac mae prisiau tai yn uchel. Mae ganddi ddau draeth eang, tywodlyd, sy'n boblogaidd gan drigolion Tiwnis haf a gaeaf. Rhed y corniche (rhodfa'r môr) ar hyd y traeth gorllewinol.
Y tu draw i'r corniche ceir ardal dra-ddethol Gammarth gyda gwestai pum seren a filas cyffelyb. Yma roedd llywodraeth y Diwnisia gyn-drefedigaethol yn arfer symud yn yr haf, i osgoi gwres llethol y brifddinas. Mae llawer o'r adeiladu yn dyddio o'r cyfnod Ffrengig. Ceir sgwâr tawel gyda mosg yng nghanol y dref, ger yr orsaf TGM.
I'r gogledd-orllewin o La Marsa ceir llyn hallt Sebkha er-Riana. Mae Maes Awyr Tiwnis-Carthago yn gorwedd hanner ffordd rhwng La Marsa a'r brifddinas.