![]() Luigi Raffanelli, creawdwr rol Syr Tobia Mill | |
Enghraifft o: | gwaith drama-gerdd ![]() |
---|---|
Gwlad | yr Eidal ![]() |
Iaith | Eidaleg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 19 g ![]() |
Genre | opera ![]() |
Cymeriadau | Tobia Mill, Fanni, Edoardo Milfort, Slook, Norton, Clarina ![]() |
Libretydd | Gaetano Rossi ![]() |
Lleoliad y perff. 1af | Teatro San Moisè ![]() |
Dyddiad y perff. 1af | 3 Tachwedd 1810 ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
Cyfansoddwr | Gioachino Rossini ![]() |
![]() |
Mae La cambiale di matrimonio (Y cytundeb Priodas) yn farsa comica operatig un act gan Gioachino Rossini i libreto gan Gaetano Rossi. Seiliwyd y libreto ar ddrama gan Camillo Federici (1791) a libreto blaenorol gan Giuseppe Checcherini ar gyfer opera 1807 gan Carlo Coccia, Il matrimonio per lettera di cambio. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf ar 3 Tachwedd 1810 yn y Teatro San Moisè yn Fenis.[1] Cafodd rediad o dri ar ddeg o berfformiadau yn Teatro San Moisè.[2]
Wedi'i chyfansoddi mewn ychydig ddyddiau pan oedd Rossini yn 18 oed, La cambiale di matrimonio oedd ei opera broffesiynol gyntaf. Mae'r agorawd, a ysgrifennwyd pan oedd yn fyfyriwr yn y Liceo Musicale yn Bologna, yn rhan bwysig o'r repertoire cyngerdd modern.[1] Fel bu'n nodweddiadol o'i yrfa ddiweddarach, ailddefnyddiodd y ddeuawd "Dunque io son" yn ddiweddarach, yn fwy effeithiol, yn act 1 o Farbwr Sevilla.[3]