![]() | |
Gwlad | Sbaen |
---|---|
Conffederasiwn | UEFA |
Ffurfiwyd | 1929 |
Nifer o dimau | 20 |
Lefel yn y pyramid | 1 |
Cwympo i | Segunda División |
Cwpanau domestig | Copa del Rey Supercopa de España |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
Pencampwyr | Real Madrid (34in penc.) (2019-20) |
Mwyaf llwyddiannus | Real Madrid (34) |
Gwefan | www.lfp.es |
Y Primera División (Cymraeg: Adran Gyntaf) o'r Liga Nacional de Fútbol Profesional (LFP), sy'n cael ei adnabod fel La Liga, yw prif adran system bêl-droed Sbaen ac fe'i hadnabyddir, am resymau nawdd, fel Liga BBVA (Cynghrair BBVA). Fe'i gweinyddir gan Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen, yr RFEF.
Mae 20 tîm yn yr adran gyda'r tri tîm sy'n gorffen ar waelod yr adran yn disgyn i'r Segunda División (Ail Adran) ar ddiwedd y tymor gyda'r ddau dîm ar frig y Segunda ac enillydd gêm ail gyfle yn esgyn yn eu lle. Mae 60 o dimau gwahanol wedi cystadlu yn La Liga gyda naw tîm gwahanol yn cael eu coroni'n bencampwyr. Real Madrid a Barcelona sydd wedi rheoli'r bencampwriaeth gyda Real Madrid yn ei hennill 32 o weithiau a Barcelona 22 o weithiau.