![]() | |
Math | tŷ opera ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Santa Maria alla Scala ![]() |
Agoriad swyddogol | 3 Awst 1778 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Milan ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 45.4675°N 9.1892°E, 45.467336°N 9.1888°E ![]() |
Rheolir gan | Fondazione Teatro alla Scala ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | Neoclassical architecture in Milan ![]() |
Perchnogaeth | Società dei palchettisti del Teatro alla Scala, Milan, Municipality of Milan ![]() |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal ![]() |
Manylion | |
Mae La Scala, yr enw byr Eidaleg ar gyfer Teatro alla Scala, yn Dŷ Opera ym Milan, yr Eidal. Cafodd y theatr ei agor ar gyfer perfformiadau ar 3 Awst 1778. Ei enw gwreiddiol oedd y Nuovo Regio Ducale Teatro alla Scala (Theatr Newydd Brenhinol a Dugaidd alla Scala). Y perfformiad cyntaf oedd perfformiad o opera Antonio Salieri Europa riconosciuta.[1]
Mae'r rhan fwyaf o artistiaid operatig mwyaf yr Eidal a llawer o gantorion gorau o bob cwr o'r byd, wedi ymddangos yn La Scala. Mae'r theatr yn cael ei ystyried fel un o brif theatrau opera a bale yn y byd. Mae'n gartref i Gorws Theatr La Scala, Bale Theatr La Scala a Cherddorfa Theatr La Scala. Mae'r gan y theatr hefyd ysgol, Accademia Teatro alla Scala, (Academi Theatr La Scala). Mae'r ysgol yn cynnig hyfforddiant proffesiynol mewn cerddoriaeth, dawnsio, crefft llwyfan a rheoli llwyfan.