Enghraifft o: | chwiliedydd gofod |
---|---|
Màs | 3,893 cilogram |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Yn cynnwys | Curiosity |
Gweithredwr | NASA |
Gwneuthurwr | Labordy Propulsion Jet, Boeing, Lockheed Martin |
Gwefan | https://www.nasa.gov/msl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Mars Science Laboratory (sef MSL neu "Labordy Gwyddoniaeth Mawrth"), a'i gerbyd archwilio "rover" a adnabyddir hefyd fel Curiosity yn chwiliedydd a anelwyd tuag at Blaned Mawrth ar 26 Tachwedd 2011[1] ac a ollyngodd ei gerbyd archwilio "Rover" ar 6 Awst 2012.[2] Ar fwrdd y rover roedd cyfarpar gwyddonol wedi'u cynllunio gan dîm rhyngwladol.[3]
Glaniodd yng nghrater Gale[4][5] gyda'r bwriad o geisio darganfod a oes bywyd wedi bodoli ar y blaned yn y gorffennol drwy gaslu data ar gyfer taith pellach i'r blaned gan fodau dynol.[6]
Rhan o brosiect tymor hir gan NASA yw hwn, sy'n cael ei weithredu gan Labordy 'Jet Propulsion' California Institute of Technology. Amcangyfrifir y bydd cost y prosiect MSL hwn oddeutu US$2.5 billion.[7][8] Yn y gorffennol cafwyd sawl prosiect llwyddiannus gan gynnwys Spirit rover ac Opportunity rover, a Sojourner o'r prosiect Mars Pathfinder. Mae Curiosity, fodd bynnag ddwywaith mor hir a dwywaith mor drwm a'r ddau arall ac yn medru cludo deg gwaith cymaint o gyfarpar gwyddonol.[9]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw NASA-2
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw NASA-1
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw MarsExplorationMMRTG
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw SF1012012-07-06
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw overview
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw leone
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Wired-20120625