![]() | |
Enghraifft o: | band ![]() |
---|---|
Gwlad | Slofenia ![]() |
Rhan o | Neue Slowenische Kunst ![]() |
Label recordio | Staalplaat, Mute Records ![]() |
Dod i'r brig | 1980 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1 Mehefin 1980 ![]() |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, tecno, electronic body music, industrial music, ôl-pync, avant-garde music, cerddoriaeth arbrofol, dark wave ![]() |
Yn cynnwys | Milan Fras, Eva Breznikar, Mina Špiler, Ivan Novak, Luka Jamnik, Janez Gabrič ![]() |
Enw brodorol | Laibach ![]() |
Gwefan | http://www.laibach.org/ ![]() |
![]() |
Mae Laibach yn grŵp cerddorol avant-garde o Slofenia yn enwog am steil milwrol, diwydiannol a neo clasurol.
Mae delwedd y band yn fwriadol anghyffyrddus i'r cyhoedd gan fenthyg amrywiaeth fawr o bropaganda, celfyddyd a dillad ffasgaidd, dyfodoliaeth, totalitaraidd a chomiwnyddol y 1930au-1950au.
Mae Laibach yn adnabyddus am beidio â gwadu neu gadarnhau os ydyn nhw yn gefnogol totalitariaeth neu'n barodi.
Bu Laibach yn y newyddion am fod y grŵp gorllewinol cyntaf i gael y cyfle i berfformio yng Ngogledd Corea.[1]. Chwaraeodd y band dwy gyngerdd yn Awst, 2015 yn y brif ddinas Pyongyang fel rhan o ddathliadau 70 mlynedd ers rhyddhau Gogledd Corea o reolaeth Japan[2]
Mae'r enw Laibach yw'r gair Almaeneg am brif ddinas Slofenia Ljubljana a orfodwyd gan luoedd Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.