Lajos Kossuth | |
---|---|
Ganwyd | 19 Medi 1802 Monok |
Bu farw | 20 Mawrth 1894 Torino |
Dinasyddiaeth | Hwngari |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd, newyddiadurwr, gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Hwngari, llywodraethwr, Minister of Finance in Hungary, Prif Weinidog Hwngari, Regent of Hungary |
Plaid Wleidyddol | Opposition Party |
Plant | Ferenc Kossuth, Lajos Tódor Károly Kossuth |
Gwobr/au | honorary citizen of Miskolc, honorary citizen of Mukachevo, honorary citizen of Csongrád, honorary citizen of Szentes, honorary citizen of Győr |
llofnod | |
Bonheddwr, cyfreithiwr, newyddiadurwr, gwleidydd, gwladweinydd Hwngaraidd a Llywodraethwr-Lywydd Teyrnas Hwngari yn ystod chwyldro 1848-49 oedd Lajos Kossuth de Udvard et Kossuthfalva (19 Medi, 1802 - 20 Mawrth, 1894).[1]
Trwy ei ddawn o annerch mewn dadleuon gwleidyddol ac areithiau cyhoeddus, daeth Kossuth o deulu bonedd tlawd i fod yn Llywodraethwr-Lywydd Teyrnas Hwngari. Fel y dywedodd y newyddiadurwr Americanaidd cyfoes dylanwadol, Horace Greeley amdano: "O'r holl areithwyr, gwladgarwyr, gwladweinwyr, alltudion, nid oes gwell, yn fyw nac yn farw." [2][3]
Gwnaeth areithiau pwerus o Kossuth gymaint o argraff yn Lloegr ac America fel bod yr awdur a chyfoeswr, yr Americanwr Daniel Webster, wedi ysgrifennu llyfr am fywyd Kossuth.[4] Cafodd ei anrhydeddu yn eang yn ystod ei oes, gan gynnwys yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau, fel un a frwydrai dros ryddid ac fel lladmerydd dros ddemocratiaeth yn Ewrop. Gellir gweld penddelw efydd o Kossuth yng Nghapitol yr Unol Daleithiau gyda'r arysgrif (Saesneg): Father of Hungarian Democracy, Hunman Statesman, Freedom Fighter, 1848–1849 .
Bu Kossuth yn ddylanwad ar Michael D. Jonrs, y cenedlaetholwr Cymreig. Fel hyn ysgrifennodd Jones amdano ym mhapur Y Celt ar 7 Mawrth 1890:
"Yr oedd y gwladgarwr Hungaraidd bydenwog Kossuth fel seren oleu yn ffurfafen Ewrop wedi tanio llawer enaid â'r athrawiaeth anfarwol o 'hawl pob cenedl i lywodraethu ei hunan', a rhwng dylanwadau mawrion, ac addysg Kossuth, nid yw cenhedloedd goresgynedig Ewrop wedi ymdawelu hyd heddyw, ond edrychant yn obeithiol yn mlaen at jiwbili pobloedd a chenhedloedd gorthrymedig."[5]