Ym mytholeg Mesopotamia, mae'r Lammasu yn greadur chwedlonol a ganddo ben dynol, corff tarw ac adennau eryr. Roeddent yn gwarchod y temlau - dau ohonynt gyda'i gilydd fel rheol - ac yn lladd pawb a ddeuai'n agos, ac eithrio pobl hollol dda neu rai hollol ddrwg, y rhai a oedd y tu hwnt i'w gallu.
Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Ymddengys nad oes cysylltiad â'r Lamashtu, creadur dieflig a ymosodai ar wragedd feichiog a phlant.[1]