Math | cynhyrchydd cerbydau |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyfyngedig |
Diwydiant | diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 1978 |
Pencadlys | Coventry |
Rhiant-gwmni | Ford |
Brand, gwneuthurwr ceir a math o gerbyd yw Land Rover sy'n arbenigo mewn cerbydau gyriant pedair olwyn. Perchennog Land Rover yw Jaguar Land Rover, a pherchennog y gwneuthurwr ceir Prydeinig hwnnw, ers 2008, yw Tata Motors o India.[1] Ystyrir y 'Land Rover' gan Brydeinwyr fel eicon Prydeinig, a rhoddwyd Gwarant Brenhinol i'r cwmni gan Siôr VI yn 1951.[2][3]
Bu 100% o'r cwmni Jaguar Land Rover ym meddiant Tata Motors ers 2008, pan brynnwyd ef gan Ford.[4] Yn 2014 gwerthodd Tata 462,678 o gerbydau: 381,108 Land Rover a 81,570 o gerbydau Jaguar.[5]
Cwmni Rover oedd perchennog gwreiddiol Land Rover pan gynhyrchwyd y gyfres Land Rover yn 1948. Cafwyd gwahanol fathau o'r cerbyd gyriant pedair olwyn, gan gynnwys y canlynol: Defender, Discovery, Freelander, Range Rover, Range Rover Sport a'r Range Rover Evoque. Cynhyrchir y cerbydau hyn yn Halewood a Solihull gyda'r gwaith ymchwil yn cael ei wneud yn Gaydon a Whitley. Yn 2009 gwerthwyd 194,000 o gerbydau.[6]
Ym Medi 2013, cyhoeddwyd cynlluniau i agor canolfan ymchwil gwerth £100 miliwn ym Mhrifysgol Warwick, Coventry i gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gerbydau. Y nod oedd cyflogi mil o academyddion a pheiriannwyr i gynllunio ceir gyda'r dechnoleg ddiweddaraf.[7]