![]() | |
Math | dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 201,546 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+04:30 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lashkargah District ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 773 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 31.593819°N 64.371611°E ![]() |
![]() | |
Dinas yn ne-orllewin Affganistan a phrifddinas daleithiol Helmand yw Lashkargah neu Lashkar Gah (Pashto: لښکرګاه, Dari: لشکرگاه). Saif ar lannau Afon Helmand, ychydig i'r de o'r briffordd sydd yn cysylltu Kandahar ac Herat. Yn hanesyddol cafodd ei galw'n Kashkari Bazaar, Kala-i Bist, neu Bost.[1]
Codwyd tref yma gan Mahmud, Swltan Ymerodraeth y Ghaznavid, yn ystod y 10g. Ysbeiliwyd y dref gan luoedd y Ghurid ym 1150, ond cafodd ei hail-adeiladu ganddynt. Dinistriwyd yn llwyr gan y Mongolwyr ym 1226. Ers hynny, codwyd nifer o wahanol amddiffynfeydd ar y safle.[1]
Yn ystod Rhyfel ISAF yn Affganistan, Lashkargah oedd canolfan y Fyddin Brydeinig wrth ymladd Ymgyrch Herrick (2002–14) yn erbyn Gwrthryfel y Taleban. Yn ystod ymgyrch ymosodol y Taleban yn 2021, cwympodd Lashkargah i'r Taleban wedi pythefnos o frwydro.[2]