Lauren Kate | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Mawrth 1981 ![]() Dayton ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur plant ![]() |
Arddull | nofel ramant ![]() |
Gwefan | http://laurenkatebooks.net ![]() |
Awdures Americanaidd yw Lauren Kate (ganwyd 21 Mawrth 1981) sy'n arbenigo mewn nofelau ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Erbyn 2019 roedd ei gwaith wedi eu cyhoeddi mewn dros 30 o ieithoedd, ac yn cynnwys y gwerthwyr gorau The Betrayal of Natalie Hargrove a Fallen. Yn Ionawr 2010, cyrhaeddodd Fallen rif 3 yn y New York Times Best Seller List ar gyfer plant, ac arhosodd ar y rhestr hyd at Ebrill y flwyddyn ganlynol. Pan gyhoeddodd Torment, aeth yn syth i Rif 1.[1]
Fe'i ganed yn Dayton, Ohio, Unol Daleithiau America, a'i magu yn Dallas, Texas. Mae ganddi radd Meistr mewn ffuglen o Brifysgol California, Davis.[2][3][4][5] [6]
Priododd Kate â Jason Morphew, canwr-gyfansoddwr, yn 2009 ac mae ganddynt ddau o blant. Yn 2019 roedd y teulu'n byw yn Laurel Canyon, Los Angeles.
Yn Rhagfyr 2009 prynnodd Disney holl hawliau i Fallen - a hynny ar y diwrnod y cafodd ei ryddhau.