Delwedd:1485 malory thomas le morte darthur-image.png, The Birth, Life, and Acts of King Arthur.png | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Thomas Malory |
Iaith | Saesneg Canol |
Dyddiad cyhoeddi | 1485 |
Genre | Rhamant, Arthurian romance |
Cymeriadau | y Brenin Arthur, Lawnslot, Gwenhwyfar |
Yn cynnwys | The Tale of King Arthur |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Lloegr, Camelot |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Le Morte d'Arthur, neu Le Morte Darthur yn yr argraffiad cyntaf ("Marwolaeth Arthur") yw'r pwysicaf o'r fersiynau o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig. Mae'n gasgliad o ddeunydd Ffrengig a Seisnig am Arthur gan Syr Thomas Malory (c. 1405 - 1471), wedi eu hail-adrodd yn ôl syniadau Malory ei hun, ac yn cynnwys rhywfaint o waith gwreiddiol Malory ei hun yn stori Gareth. Un ffynhonnell bwysig oedd y Lawnslot-Greal, gwaith Ffrangeg o ddechrau'r 13g. Er gwaethaf yr enw Ffrangeg, testun Saesneg ydyw.
Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn 1485 gan William Caxton, a daeth yn eithriadol o boblogaidd. Mae'n cynnwys wyth stori wahanol: