Lead Belly | |
---|---|
Ffugenw | Lead Belly, Walter Boyd |
Ganwyd | Huddie William Ledbetter 20 Ionawr 1888, 29 Ionawr 1885 Louisiana |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1949 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Louisiana |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | gitarydd, canwr, artist stryd, accordionist, cyfansoddwr |
Arddull | y felan, canu gwlad |
Priod | Martha Promise |
Gwobr/au | Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Rock and Roll Hall of Fame |
Gwefan | http://www.leadbelly.org/ |
llofnod | |
Cerddor gwerin a'r felan o Americanwr oedd Huddie William Ledbetter (/ˈhjuːdi/; 20 Ionawr 1889 – 6 Rhagfyr 1949). Roedd ganddo lais cryf ac yn feistr ar ganu'r gitâr ddeuddeg-tant; roedd yn nodedig am gyflwyno sawl cân werin safonol, a'u poblogeiddio dros nos. Ond mae'n fwyaf adnabyddus dan yr enw Lead Belly. Er i'r ffurf "Leadbelly" gael ei defnyddio'n aml,[1] ysgrifennodd ef ei hun "Lead Belly" a dyna'r sillafiad sydd ar ei garreg fedd[2][3] a'r sillafiad a ddefnyddir gan y Lead Belly Foundation.[4]
Treuliodd ei fywyd cynnar yn crwydro goror Louisiana a Texas gan ddysgu traddodiadau cerddorol yr Americanwyr duon, yn enwedig y felan a chaneuon gwaith. Cafodd ei garcharu teirgwaith, y tro cyntaf am lofruddiaeth. Daeth i sylw'r byd drwy John ac Alan Lomax a fu'n gynghorwyr a rheolwyr iddo. Ni chafodd Lead Belly fawr o lwyddiant ariannol yn ystod ei fywyd, ond parhaodd i deithio a chanu ar draws yr Unol Daleithiau. Perfformiodd mewn clybiau nos Efrog Newydd yn y 1940au ac ar ddiwedd ei oes fe deithiodd i Ffrainc. Bu farw Lead Belly heb yr un ddoler.
Y rhan fwyaf o'r amser, canai'r gitâr ddeuddeg-tant ond roedd hefyd yn medru canu'r piano, y mandolin, yr harmonica, y ffidil a'r windjammer (acordion diatonig).[5] Mewn rhai o'i recordiau fe ganodd tra'n clapio'i ddwylo neu guro'i droed. Recordiodd ganeuon o sawl math o gerddoriaeth ac amrywiaeth o themâu, gan gynnwys yr emynau hwyl; caneuon y blŵs am ferched, yfed, y carchar, a hiliaeth; a chaneuon gwerin am lafur, cowbois, morwyr, gyrru gwartheg, a dawnsio. Ysgrifennodd hefyd ganeuon am bobl yn y newyddion, megis Franklin D. Roosevelt, Adolf Hitler, Jean Harlow, Jack Johnson, Howard Hughes, a'r Scottsboro Boys.
O ganlyniad i'w ddawn naturiol, ei repertoire eang a'i fywyd treisgar, daeth Lead Belly yn un o gerddorion chwedlonol ac arloesol y felan, megis Robert Johnson a Blind Lemon Jefferson. Bu ganddo ddylanwad rhyfeddol ar gerddoriaeth werin a phoblogaidd y 20g. Cafodd ei ynydu i'r Rock and Roll Hall of Fame ym 1988 a'r Louisiana Music Hall of Fame yn 2008.