Lesley Gore | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Lesley Gore ![]() |
Ganwyd | Lesley Sue Goldstein ![]() 2 Mai 1946 ![]() Brooklyn ![]() |
Bu farw | 16 Chwefror 2015 ![]() o canser yr ysgyfaint ![]() Manhattan ![]() |
Label recordio | Mercury Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, artist recordio ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd ![]() |
Priod | Lois Sasson ![]() |
Cantores, cyfansoddwraig, actores ac ymgyrchydd gwleidyddol o'r Unol Daleithiau oedd Lesley Sue Gore (née Goldstein; 2 Mai 1946 – 16 Chwefror 2015). Pan oedd yn 16 oed yn 1963, recordiodd y gân bop "It's My Party," ac yna dilynwyd hyn gyda chaneuon llwyddiannus eraill megis "Judy's Turn to Cry" a "You Don't Own Me."
Gweithiodd Gore fel actores hefyd a chyfansoddodd ganeuon gyda'i brawd, Michael Gore, ar gyfer y ffilm Fame, pan gafodd ei henwebu am Wobr yr Academi. Bu'n weithgar tan 2014, a chyflwynodd rhaglen deledu LHDT, In the Life, ar deledu Americanaidd yn ystod y 2000au.