Lewis Carroll | |
---|---|
Ffugenw | Lewis Carroll |
Ganwyd | Charles Lutwidge Dodgson 27 Ionawr 1832 Daresbury |
Bu farw | 14 Ionawr 1898 o niwmonia Guildford, The Chestnuts |
Man preswyl | Lloegr |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Lloegr |
Addysg | Meistr yn y Celfyddydau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, rhesymegwr, ffotograffydd, bardd, diacon, awdur plant, dyddiadurwr, nofelydd, llenor, hunangofiannydd, athronydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud, Through the Looking-Glass, Jabberwocky, The Walrus and the Carpenter, Phantasmagoria, The Hunting of the Snark, Rhyme? and Reason?, A Tangled Tale, Sylvie and Bruno, The Nursery "Alice", What the Tortoise Said to Achilles, nyctography |
Arddull | llenyddiaeth plant, rhesymeg mathemateg, literary nonsense, barddoniaeth, Algebra llinol, social choice theory |
Tad | Charles Dodgson |
Mam | Frances Jane Lutwidge |
Perthnasau | Charles Dodgson |
llofnod | |
Awdur o Loegr oedd Charles Lutwidge Dodgson a adnabyddir hefyd fel "Lewis Carroll" (27 Ionawr 1832 - 14 Ionawr 1898); roedd hefyd yn fathemategydd, yn flaenor yn yr eglwys ac yn ffotograffydd cynnar.[1][2] Ei lyfr enwocaf yw Alice's Adventures in Wonderland a'r dilyniant Through the Looking-Glass, sy'n cynnwys y cerddi enwog Jabberwocky a The Hunting of the Snark, ill dau'n enghreifftiau o'r genre 'nonsens llenyddol'. Mae ei ymdriniaeth o eiriau a chwarae gyda geiriau'n wahanol iawn i'w gyfoedion, fel mae ei ddefnydd o resymeg a ffantasi hefyd.[3]