Math | dinas lefel rhaglawiaeth, dinas fawr, dinas, dinas-wladwriaeth, anheddiad dynol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 902,500, 867,891 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+08:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Beit Shemesh, Elista ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Ymreolaethol Tibet ![]() |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Arwynebedd | 29,634.01 km² ![]() |
Uwch y môr | 3,650 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 29.64576°N 91.14082°E ![]() |
Cod post | 850000 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q106704936 ![]() |
![]() | |
Lhasa yw prifddinas draddodiadol Tibet a phrifddinas Talaith Ymreolaethol Tibet dan lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina. Y ddinas yw canolfan draddodiadol y Dalai Lama ac mae Bwdhaeth Tibet yn ei hystyried y ddinas fwyaf sanctaidd yn Tibet.
Mae'r ddinas yn un o'r rhai uchaf yn y byd, tua 3,650 m (11,975 troedfedd). Mae'r boblogaeth tua 255,000.
Ymhlith yr adeiladau o ddiddordeb mae Palas Potala, Teml Jokhang a Mynachlog Sera.
Yn 2006 agorwyd y rheilffordd uchaf yn y byd yn cysylltu Lhasa a Beijing. Mae'n ddatblygiad dadleuol, gan fod nifer o Dibetwyr yn gweld bygythiad o gynyddu'r mewnlifiad o bobl Han i Dibet, proses sy'n araf droi'r Tibetwyr yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain.