Lillian Gish | |
---|---|
Ganwyd | Lillian Diana Gish 14 Hydref 1893 Springfield |
Bu farw | 27 Chwefror 1993 o methiant y galon Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Springfield |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, hunangofiannydd, sgriptiwr, actor llwyfan, actor teledu, ymgyrchydd heddwch, actor, cyfarwyddwr |
Cartre'r teulu | yr Almaen |
Tad | James Leigh Gish |
Mam | Mary Gish |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am yr Actores Orau, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.lilliangish.com/ |
llofnod | |
Awdures Americanaidd oedd Lillian Diana Gish (14 Hydref 1893 - 27 Chwefror 1993) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, hunangofiannydd, sgriptiwr ac actor llwyfan.
Fe'i ganed yn Springfield, Ohio a bu farw yn Ninas Efrog Newydd o fethiant y galon ac afiechyd y system cardiofasgwlaidd. Fe'i claddwyd yn Church of the Heavenly Rest. [1][2][3][4][5][6]
Roedd ei gyrfa actio mewn ffilmiau'n rhychwantu 75 mlynedd, o 1912, mewn ffilmiau-tawel, byrion, hyd at 1987. Gelwid Gish yn First Lady of American Cinema, ac mae'n cael ei chofio am dechnegau perfformio arloesol.[7][8]
Roedd Gish yn seren-ffilm poblogaidd o 1912 i'r 1920au, ac yn gysylltiedig â ffilmiau'r cyfarwyddwr D. W. Griffith, gan gynnwys ei rôl arweiniol yn y ffilm gros uchaf o'r cyfnod tawel, The Birth of a Nation (Griffiths; 1915). Ar ddechrau'r cyfnod ffilm-sain, dychwelodd i'r llwyfan, ac anaml iawn yr ymddangosodd mewn ffilm. ond gwnaeth hynny yn Duel in the Sun a oedd yn ffilm eitha dadleuol (1946) a'r ffilm gyffrous The Night of the Hunter (1955).
Gwnaeth hefyd lawer o waith teledu o ddechrau'r 1950au i'r 1980au a diweddodd ei gyrfa'n chwarae gyferbyn â Bette Davis yn y ffilm The Whales of August (1987).