Lily Tomlin | |
---|---|
Ganwyd | Mary Jean Tomlin 1 Medi 1939 Detroit |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor llais, llenor, sgriptiwr |
Priod | Jane Wagner |
Gwobr/au | Primetime Emmy Award for Outstanding Writing for a Miniseries, Movie or a Dramatic Special, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Arth arian am yr Actores Orau, Gwobr Crystal, Gwobr Lucy, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times, Drama Desk Award for Outstanding Actress in a Play, Primetime Emmy Award for Outstanding Writing for a Miniseries, Movie or a Dramatic Special, Primetime Emmy Award for Outstanding Variety, Music or Comedy Series, Primetime Emmy Award for Outstanding Voice-Over Performance, Gwobr Tony Arbennig, Grammy Award for Best Comedy Album |
Gwefan | http://www.lilytomlin.com/ |
Mae Mary Jean "Lily" Tomlin (ganed 1 Medi 1939)[1] yn actores, comediwraig, ysgrifenwraig a chynhyrchwraig Americanaidd. Dechreuodd ei gyrfa yn 1960au fel comediwraig ar ei sefyll a daeth yn berfformwraig ar y rhaglen deledu Rowan & Martin's Laugh-In.
Mae wedi ymddangos ar y teledu, mewn recordiadau comedi, ar Broadway a hefyd mewn ffilmiau. Serennodd mewn ffilmiau megis Nashville, 9 to 5, All of Me, The Beverley Hillbillies, Orange County ac I Heart Huckabees. Ar y teledu, mae'n fwyaf adnabyddus am ei rolau fel aelod o gast Laugh-In rhwng 1970-73, Ms. Frizzle yn The Magic School Bus, Kay Carter-Shepley yn Murphy Brown, Deborah Fiderer yn The West Wing, Lillie Mae MacKenzie yn Malibu Country a Frankie Bergstein yn Grace and Frankie.