![]() | ||||
Enw llawn | Linfield Football Club[1] | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | The Blues | |||
Sefydlwyd | Mawrth 1886 (as Linfield Athletic Club)[1] | |||
Maes | Parc Windsor, Belffast (sy'n dal: 18,434) | |||
Cadeirydd | Roy McGivern | |||
Rheolwr | David Healy | |||
Cynghrair | NIFL Premiership | |||
2023–24 | NIFL Premiership, 2. | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
|
Mae Linfield Football Club (fel rheol, Linfield FC) yn glwb pêl-droed proffesiynol o Ogledd Iwerddon sydd wedi'i leoli yn ne Belffast sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon, yr NIFL - lefel uchaf Cynghrair Pêl-droed Gogledd Iwerddon. Dyma'r pedwerydd clwb hynaf ar ynys Iwerddon; sefydlwyd Linfield fel Linfield Athletic Club ym mis Mawrth 1886 gan weithwyr yn Linfield Mill yr Ulster Spinning Company.[2] Ers 1905, Parc Windsor yw maes cartref y clwb,[1] sydd hefyd yn gartref i dîm Gogledd Iwerddon a stadiwm pêl-droed fwyaf Gogledd Iwerddon. Mae bathodyn y clwb yn arddangos Castell Windsor, sef cartref teulu brenhinol Prydain, gan gyfeirio at enw'r tir.[3] Mae'r teyrngarwch yma i'r frenhiniaeth yn dangos ethos Unoliaethol, Brydeinig y clwb.