Enghraifft o: | imprecise class of chemical entities |
---|---|
Math | cyfansoddyn organig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp eang o foleciwlau sy'n digwydd yn naturiol ydy lipidau. Maent yn cynnwys brasterau, cwyrau, sterolau, fitaminau hydawdd mewn braster (megis fitaminau A, D, E a K), monoglyseridau, diglyseridau, ffosffolipidau, ac eraill. Prif swyddogaethau biolegol lipidau yw storio egni, fel elfennau strwythurol cellbilenni, ac fel moleciwlau signalu.
Yn gyffredinol, gellir diffinio lipidau fel moleciwlau bychan hydroffobig neu amffiffilaidd; mae natur amffiffilaidd rhai lipidau yn eu galluogi i greu strwythurau megis pothelli, liposomau, neu cellbilenni mewn amgylchedd dyfrog. Tarddia lipidau biolegol yn gyfangwbl neu'n rhannol mewn dau fath penodol o is-unedau biogemegol neu "flociau adeiladu": y grŵpiau cetonasyl ac isoprene.[1] Gan ddefnyddio'r dechneg hon, gellir rhannu lipidau i mewn i wyth categori: asylau brasterog, glyserolipidau, glyseroffosffolipidau, sphingolipidau, sacarolipidau a polycetidau (sy'n deillio o gyddwyso is-unedau cetoasyl); a lipidau sterol a prenol lipids (sy'n deillio o gyddwyso is-unedau isoprene).