Delwedd:Сгущёнка Верховского МКЗ - Донор.JPG, Tin of condensed milk.jpg | |
Enghraifft o: | bwyd ![]() |
---|---|
Math | cynnyrch llaeth ![]() |
Deunydd | llaeth, siwgr ![]() |
![]() |
Llaeth buwch yw llaeth cyddwysedig neu laeth cyddwys (Saesneg: condensed milk) lle mae tua 60% o'r dŵr wedi'i dynnu ohono. Fe'i canfyddir gan amlaf gyda siwgr wedi'i ychwanegu ato ac wedi'i felysu (SCM), i'r graddau bod y termau "llaeth cyddwys" a "llaeth cyddwys wedi'i felysu" yn aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol heddiw.[1] Mae llaeth cyddwys wedi'i felysu'n gynnyrch melys trwchus iawn, a all pan bara mewn tun am flynyddoedd heb oergell os na chaiff ei agor. Defnyddir y cynnyrch mewn nifer o seigiau pwdin mewn sawl gwlad.[2]
Ymhlith y cynnyrch cysylltiedig mae llaeth anwedd (Saesneg: evaporated milk), sydd wedi mynd trwy broses gadwraeth hirach oherwydd nad yw'n cael ei felysu. Caiff llaeth anwedd ei adnabod mewn rhai gwledydd fel "llaeth cyddwys heb ei felysu". Tynnir yr un faint o ddŵr o'r ddau gynnyrch.[3]
Sweetened condensed milk (SCM) is concentrated milk to which sugar has been added to act as a preservative. It differs from unsweetened evaporated milk, which is preserved by sterilization at high temperature after packaging. Typically, SCM contains around 8% fat, 45% sugar and 20% solids-non-fat. The finished product is mainly used in the manufacture of confectionery and chocolate.