Llafur Cymru | |
---|---|
Arweinydd | Eluned Morgan |
Dirprwy Arweinydd | Carolyn Harris |
Ysgrifennydd Cyffredinl | Jo McIntyre |
Sefydlwyd | 1947 |
Pencadlys | 1 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9HA |
Asgell myfyrwyr | Myfyrwyr Llafur Cymru |
Asgell yr ifanc | Llafur Cymru Ifanc |
Aelodaeth (2022) | 18,000[1] |
Rhestr o idiolegau | |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol Chwith |
Partner rhyngwladol | Cynghrair Flaengar Sosialaidd Rhyngwladol |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Plaid Sosialwyr Ewropeaidd |
Cyswllt Senedd y DU | Y Blaid Lafur |
Lliw | Coch |
Tŷ'r Cyffredin | 27 / 32 |
Senedd | 30 / 60 |
Llywodraeth leol yng Nghymru[3] | 523 / 1,234 |
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | 3 / 4 |
Gwefan | |
www.welshlabour.wales |
Llafur Cymru yw cangen Plaid Lafur ffederal y Deyrnas Unedig yng Nghymru. Hi yw'r blaid wleidyddol fwyaf a mwyaf llwyddiannus yng ngwleidyddiaeth fodern Cymru. Gyda’i sefydliadau rhagflaenol, mae wedi ennill cyfran fwyaf y bleidlais ym mhob Etholiad Cyffredinol yn y DU ers 1922, pob etholiad Senedd ers 1999, a phob etholiad Senedd Ewrop rhwng 1979 a 2004, yn ogystal ag un 2014.[4] Mae gan Lafur Cymru 22 o 40 sedd yng Nghymru yn Senedd y DU, 29 o 60 sedd yn y Senedd, ac mae'r blaid gyda rheolaeth gyffredinol ar 10 o 22 o awdurdodau lleol Cymru.