Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 235, 222 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,363.59 ha |
Cyfesurynnau | 52.0833°N 3.9833°W |
Cod SYG | W04000545 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llan-crwys (hefyd: Llan-y-crwys; Saesneg: Llanycrwys). Saif tua pedair milltir i'r de-ddwyrain o dref Llanbedr Pont Steffan, ar lannau Afon Twrch.
Yn 1934, cyhoeddodd yr ysgolfeistr lleol, Daniel Jenkins, Cerddi Ysgol Llanycrwys, sef casgliad o gerddi a ysgrifennwyd gan feirdd adnabyddus ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Llanycrwys rhwng 1901 a 1920.
Caewyd ysgol gynradd gymunedol Llanycrwys pan agorwyd ysgol ffederal newydd Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen ym Medi 2000, wedi cyfuniad ysgolion Coedmor, Ffarmers a Llanycrwys.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[2][3]