Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7355°N 3.84786°W |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref bychan a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Llan-giwg[1] (hefyd: Llangiwg). Fe'i lleolir tua 1.5 milltir i'r gogledd o Bontardawe.
Enwir plwyf Llan-giwg ar ôl Sant Ciwg, sant cynnar y cyfeirir ato yn derbyn tir gan y Brenin Arthur yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy.[2] Mae eglwys Llan-giwg yn adeilad rhestredig Graddfa 1; mae wedi cau.
Ceir ysgol gynradd yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[4]