![]() Eglwys Sant Peulin, Llan-gors | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,080, 1,117 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,572.62 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.940362°N 3.259919°W ![]() |
Cod SYG | W04000309 ![]() |
Cod OS | SO134275 ![]() |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llan-gors.[1] Saif i'r dwyrain o Aberhonddu.[2] Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Peulin.
Gerllaw'r pentref mae Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn ne Cymru a lleoliad Crannog Llyn Syfaddan, un o ddwy grannog y gwyddir amdani yng Nghymru, a oedd o bosib, a chysylltiad gyda theulu brenhinol Brycheiniog, sy'n brawf o gyslltiad Cymru gydag Iwerddon (lle ceir miloedd o granogau). Ceir cofnod gan Gerallt Gymro o draddodiad lleol mai dim ond o flaen tywysog cyfreithlon Cymru y canai adar y llyn.
Heblaw pentref Llangors, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llangasty Tal-y-llyn, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llan-y-wern a Cathedin. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,045.