![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 874, 883 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 959.61 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4791°N 3.3233°W ![]() |
Cod SYG | W04000666 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Kanishka Narayan (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Llanbedr-y-fro (amrywiad, Llanbedr-ar-fro, Saesneg: Peterston-Super-Ely). Fe'i lleolir tua 8 milltir i'r gorllewin o ganol Caerdydd ar lan Afon Elai.
Cysgegrir yr eglwys leol i Sant Pedr. Ceir adfeilion castell bychan hefyd.
Saethir y rhan fwyaf o olygfeydd awyr agored yr opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm yn ardal Llanbedr-y-fro. Cynhelir gŵyl gelf flynyddol yn yr hydref. [1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[3]