Llanddewi Brefi

Llanddewi Brefi
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDewi Sant Edit this on Wikidata
Poblogaeth640, 624 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd11,266 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1796°N 3.9568°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000373 Edit this on Wikidata
Cod OSSN662553 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Gweler hefyd Llanddewi.

Pentref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Llanddewi Brefi[1][2] neu Llanddewibrefi.[3] Saif yng nghanol cefn gwlad yn ne-ddwyrain y sir ar ffordd y B4343, tua 4 milltir i'r de o Dregaron. Fe'i sefydlwyd tua'r 6g. Mae tua 500 o bobl yn byw yno.

Gelwir y pentref yn Llanddewi Brefi am ei fod yn sefyll ar lan Afon Brefi, un o ledneintiau Afon Teifi.

Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi

Er nad yw'n lle mawr, mae gan Llanddewi Brefi ran bwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cynhaliodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, Synod Brefi yno. Rhoddodd hynny enw'r pentref ac mae eglwys y plwyf, sy'n dyddio o'r 12g, yn arddangos cerflun ohono. Fe adeiladwyd yr eglwys ar dwyn, lle dwedir y cafodd y ddaear ei chodi'n wyrthiol dan draed Dewi Sant, er mwyn caniatáu iddo gael ei glywed yn glirach gan y bobl ymgynnulledig.

Hawliodd Llanddewi Brefi sylw'r cyfryngau ar ddechrau'r 2000au yn sgil y rhaglen gomedi Little Britain ar y BBC a'r cymeriad Daffyd (sic), yr unig ddyn hoyw yn y pentref. Am gyfnod, bu nifer o wylwyr y rhaglen yn mynd i'r pentref i gael tynnu llun ger yr arwydd i mewn a chafodd hwnnw ei ddwyn sawl gwaith gan ffans o'r gyfres.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[5]


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 27 Rhagfyr 2021
  3. Sillafiad Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 549
  4. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-27.
  5. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne