![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Dwywe ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.780019°N 4.097143°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan a phlwyf eglwysig ger arfordir Bae Ceredigion yn ne Gwynedd yw Llanddwywe ( ynganiad ). Mae'n gorwedd fymryn i'r de o bentref Dyffryn Ardudwy ar ffordd yr A496.
Mae eglwys Llanddwywe yn hynafol. Fe'i cysylltir â'r santes Dwywe, gwraig Dunod Fawr a mam i'r seintiau Deiniol, Cynwyl a Gwarthan, yn ôl traddodiad. Pan fu farw y bardd Wiliam Phylip o Hendrefechan yn 92 oed, cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanddwywe ar 11 Chwefror, 1669 : gwelir ei feddrod yno o hyd. Cedwir ar glawr cywydd marwnad iddo gan Phylip Siôn Phylip.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]