![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2391°N 4.1517°W ![]() |
Cod OS | SH565735 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Cwm Cadnant, Ynys Môn, yw Llandegfan[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-ddwyrain yr ynys, ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthaethwy ac i'r gogledd o briffordd yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares.
Mae'r pentref mewn dwy ran; y pentref gwreiddiol yw'r hyn a elwir yn awr yn Hen Landegfan, o gwmpas yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tegfan. Tyfodd y rhan arall, sydd gryn dipyn yn fwy, i'r de o'r hen bentref ac yn nes at yr A545. Codwyd ystad newydd yn y pentref o'r enw Gwêl y Llan yn 2003 - sef y datblygiad mwyaf diweddar yn y pentref. Mae yna siop fach ar gornel Lôn Ganol a hefyd mae yna Ysgol Gynradd fawr yno, hefo dros 120 o blant yno. Poblogaeth y pentref (2010) yw 927.[3]
Mae yna Neuadd y Plwyf yn y pentref, lle mae cyfarfodydd, digwyddiadau elusen, a hefyd y clwb ieuenctid yn cael ei gynnal. Mae yna barc chwarae tu allan i'r neuadd.
Mae yna dafarn o'r enw Pen y Cefn, sydd yn sefyll wrth ymyl hen felin a chafodd ei ddefnyddio llawer o flynyddoedd yn ôl.
Gweithio yn ninas Bangor y mae'r mwyafrif o'r trigolion.