![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,229 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 596.65 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.575°N 4.051°W ![]() |
Cod SYG | W04000957 ![]() |
Cod OS | SS5888 ![]() |
Cod post | SA3 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rebecca Evans (Llafur) |
AS/au y DU | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned tua 5 milltir i'r de-orllewin o Abertawe ar benrhyn Gŵyr yw Llandeilo Ferwallt ( ynganiad ) (Saesneg: Bishopston). Mae'r Mwmbwls yn gorwedd dwy filltir i'r dwyrain. Llandeilo yw un o'r pentrefi mwyaf ar benrhyn Gŵyr. Mae ganddo ei glwb rygbi ei hun, South Gower RFC, a'i ysgol gyfun, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]
I ddechrau, cyfuniad o 'Llan' a Merwall oedd yr enw, ac fe dyfodd 't' yn raddol ar ddiwedd yr enw personol. Pan fu anghytuno rhwng Esgobaeth Llandaf ac Esgobaeth Tyddewi ynglŷn â'r ffiniau rhyngddynt rhoddwyd yr enw Teilo i mewn i'r enw ar ôl ailgysegru'r eglwys leol i Sant Teilo, gan ei fod yn nawddsant Esgobaeth Llandaf, er mwyn tanlinellu ei bod yn perthyn i'r esgobaeth honno.
Ceir sawl traeth lleol fel Brandy Cove, Bae Caswel a Pwll Du (gweler y llun).