![]() Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Gresynni | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy, Whitecastle ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8276°N 2.8771°W ![]() |
Cod SYG | W04000793 ![]() |
Cod OS | SO398147 ![]() |
Cod post | NP7 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llandeilo Gresynni[1][2] (Saesneg: Llantilio Crossenny). Fe'i lleolir yn y bryniau yng ngogledd y sir, ar y ffordd B4233 hanner ffordd rhwng Y Fenni i'r gorllewin a Threfynwy i'r de-ddwyrain. Enwir y pentref ar ôl yr eglwys, a gysegir i Sant Teilo.
Yn ymyl y pentref ceir yr Hen Gwrt, sy'n heneb gofrestredig.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]