![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llan-fair ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4425°N 3.4472°W ![]() |
Cod OS | SS995725 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Pentref yng nghymuned Llan-fair, Bro Morgannwg, Cymru, yw Llandochau[1] (weithiau Llandochau Fawr, Saesneg: Llandough).[2] Saif yng nghanol y sir. Fe'i gelwir yn "Llandochau Fawr" weithiau i wahaniaethu rhyngddo a Llandochau arall yn y Fro, sef Llandochau Fach, ger Penarth. Tarddiad yr enw yw Sant Dochwy o'r 5ed a'r 6g; ym mynwent Eglwys Sant Dochdwy y saif Croes Geltaidd enwog ac unigryw Irbig o'r 10fed a'r 11g.[3]
Mae'r pentref yn gorwedd ar lan orllewinol Afon Ddawan, tua milltir a hanner i'r de o'r Bont-faen. Cysylltir â dinas Caerdydd gan y ffordd A4160.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[5]