![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7318°N 2.6871°W ![]() |
Cod OS | SO525039 ![]() |
Cod post | NP25 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Tryleg Unedig, Sir Fynwy, Cymru, yw Llandogo[1][2] (hefyd Llaneuddogwy). Fe'i lleolir yn nwyrain y sir yn agos i'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw (Lloegr), ar lan orllewinol Afon Gwy. Rhed y briffordd A466 trwy'r pentref.
Mae Llandogo yn rhan o gymuned a phlwyf eglwysig Tryleg. Yn ôl rhai ffynonellau, sefydlwyd yr eglwys gan Euddogwy (Lladin: Oudoceus), un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llaneuddogwy. Diweddar yw adeilad presennol yr eglwys: cafodd ei adeiladu rhwng 1859 ac 1861 gan John Pollard Seddon a Coates Carter.[3]