Llandrillo-yn-Rhos

Llandrillo-yn-Rhos
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,593, 7,978 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd312.23 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3128°N 3.749°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000137 Edit this on Wikidata
Cod OSSH842805 Edit this on Wikidata
Cod postLL28 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au y DUGill German (Llafur)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llandrillo-yn-Rhos,[1][2] weithiau Llandrillo (Saesneg: Rhos-on-Sea). Saif ar arfordir rhyw filltir i'r gorllewin o dref Bae Colwyn, ac erbyn hyn mae i bob pwrpas yn faesdref o'r dref honno. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 7,593.[3]

Gerllaw mae Bryn Euryn, lle mae gweddillion bryngaer a atgyfnerthwyd yn yr Oesoedd Canol cynnar, efallai yn oes Maelgwn Gwynedd, a chwarel galchfaen fechan. Gellir gweld gweddillion Llys Euryn, sy'n dyddio o'r 16g ond a adeiladwyd ar safle plas cynharach lle trigai Ednyfed Fychan, distain a phrif gynorthwydd Llywelyn Fawr yn rhan gyntaf y 13g.

Ar y traeth islaw Bryn Eurun mae Rhos Fynach, lle adeiladwyd gored bysgota gan fynachod Abaty Aberconwy. Roedd yn cael ei ddefnyddio i bysgota hyd ddechrau'r 20g. Yn ôl un chwedl, o Landrillo y cychwynnodd Madog ar ei fordaith i America.

Rhwng Llandrillo a Bae Penrhyn, saif campws Coleg Llandrillo Cymru.

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Swyddfa Ystadegaeth Cenedlaethol: Census 2001 : Parish Headcounts : Conwy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-29. Cyrchwyd 2014-09-16.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne