![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tyfaelog ![]() |
Poblogaeth | 1,304, 1,349 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,466.14 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7819°N 4.2958°W ![]() |
Cod SYG | W04000516 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llandyfaelog. Saif ar y briffordd A484 rhwng Cydweli a Chaerfyrddin gerllaw Afon Gwendraeth Fach. Enwir y pentref ar ôl Sant Tyfaelog.
Heblaw am bentref Llandyfaelog ei hun, mae'r Gymuned yn cynnwys Cwm-ffrwd, Glanmorlais, Idole, Pentrepoeth, Croesyceiliog, Bancycapel a Cloigyn. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y Gymuned boblogaeth o 1,272 gyda 71.88% ohonynt yn siarad Cymraeg.
Cynrychiolir Llandyfaelog yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]