Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Maches |
Poblogaeth | 377 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6167°N 2.8167°W |
Cod SYG | W04000820 |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Llanfaches (Saesneg: Llanvaches), nid nepell o Gas-gwent.
Ceir yr enghraifft gynharaf o'r enw 'Llanfaches' mewn dogfen o 1566; cyn hynny caed yr enw 'Merthyr Maches' ym 1254. Merch Gwynllyw oedd Maches; enwir cantref Gwynllŵg yng Ngwent ar ei hôl hefyd (gweler hefyd Llanfachraeth ym Môn).[1]
Rhoddodd William Wroth (1576- 1641) y gorau i'w reithoriaeth yn Llanfaches yn 1638 ac yna yn 1639 daeth yn weinidog Annibynwyr cyntaf Cymru.[2]