Math | pentref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Machraeth o Feirion ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Dolgellau ![]() |
Cyfesurynnau | 52.78°N 3.84°W ![]() |
Cod OS | SH755225 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Mae Llanfachreth ( ynganiad ) (hefyd Llanfachraeth neu Llanfachraith) yn bentref ym Meirionnydd, Gwynedd. Saif i'r gogledd o dref Dolgellau rhwng Afon Wnion ac Afon Wen. I'r gogledd ceir bryn uchel Rhobell Fawr. Mae'n rhan o gymuned Brithdir a Llanfachreth.
Roedd Plwyf hanesyddol Llanfachreth yn cynnwys pentref Rhydymain, pentrefan Drws y Nant a'r rhan o bentref Llanelltud sydd i'r ddwyrain o afon Mawddach[1]
Plasty hynafol ac ystâd y Nannau yn Llanfachreth.[2] Ym mharc ceirw plasty'r Nannau roedd Ceubren yr Ellyll yn arfer sefyll cyn ei tharo gan mellten yn y 19eg ganrif. Wedi i Hywel Sele arglwydd Nannau bradychu Owain Glyn Dŵr yn 1402, lladdodd Owain ef a chuddiodd ei gorff yn y ceubren a daeth y ceubren yn lle melltigedig wedi hynny.[3]
Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf Llanfachraeth yn rhan o gwmwd Tal-y-bont, Cantref Meirionnydd ac yn cynnwys Abaty Cymer.
Gwasanaethir plant y pentref a'r cylch gan Ysgol Llanfachreth, sydd yn nhalgylch Ysgol y Gader, Dolgellau.