Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 453, 380 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,807.99 ha |
Cyfesurynnau | 52.8399°N 4.1133°W |
Cod SYG | W04000077 |
Cod OS | SH576291 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Ngwynedd, Cymru, yw Llanfair ( ynganiad ). Saif ger y briffordd A496 tua milltir a hanner i'r de o Harlech, hanner ffordd rhwng y dref honno a phentref Llanbedr. Ar un adeg bu gwaith llechi yn bwysig i'r economi lleol.
Mae'r pentref dafliad carreg o lan y môr gyda golygfa dros Fae Ceredigion i benrhyn Llŷn a bryniau Eryri. I'r gogledd mae Morfa Harlech yn dechrau ac yn ymestyn i'r Traeth Bach. Y tu ôl i'r pentref, i'r dwyrain, mae rhes o fryniau'n codi; ceir nifer o hynafiaethau arnynt, yn cynnwys siambrau claddu a meini hirion. I'r de-orllewin, hanner milltir i ffwrdd, ceir pentref bychan Llandanwg a'i eglwys hynafol. Mae nifer o dai ac adeiladau eraill y pentref yn enghreifftiau da o adeiladwaith lleol â cherrig mawr.
Eglwys Fair yw eglwys y plwyf. Ceir ysgrîn o'r 17g ynddi. Yno hefyd gellir gweld beddfaen y llenor Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc, a gladdwyd yno yng Ngorffennaf 1734.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]