Math | plwyf ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.170162°N 4.242977°W ![]() |
![]() | |
Crefydd/Enwad | Anglicaniaeth ![]() |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor ![]() |
Eglwys hynafol a phlwyf ar lan Afon Menai, rhwng Caernarfon a'r Felinheli, yn Arfon, Gwynedd, yw Llanfair-is-gaer (hefyd Llanfair Isgaer, Llanfair Is Gaer). Cyfeirnod OS 501601. Mae'r gaer yn yr enw yn cyfeirio at gaer Segontium. Gorweddai'r plwyf yng nghwmwd Arfon Is Gwyrfai.
Eglwys fechan o gynllun syml ydyw. Yn anffodus, fel llawer o eglwysi eraill yng ngogledd Cymru, cafodd ei "hadnewyddu" yn sylweddol iawn gan y pensaer Syr Gilbert Scott yn 1865. Ychwanegodd Scott porth a ffenestri newydd arddull Gothig. Mae'n debygol bu eglwys Geltaidd gynnar ar y safle. Mae'r clochdy bychan a'r muriau yn aros o'r adeilad gwreiddiol a cheir bedyddfaen hynafol hefyd.[1]
Ceir cysylltiad posibl rhwng Llanfair-is-gaer a'r chwedl am yr hwch arallfydol Henwen y ceir ei hanes mewn un o'r Trioedd. Yn ôl y chwedl, aeth Henwen i'r Maen Du yn Llanfair yn Arfon (Llanfair-is-gaer efallai, yn ôl Rachel Bromwich) lle esgorodd ar gath. Mewn ofn, bwriodd Coll fab Collfrewi y gath honno i'r Fenai, ond goroesoedd a thyfodd i fyny i fod yn Gath Palug, y gath ryfeddol y ceir traddodiadau amdani o Fôn i'r Alpau.[2]